Gwinllan a roddwyd i’m gofal
Yw Cymru fy ngwlad,
i’w thraddodi i’m plant, ac i blant fy mhlant.
Mae arbed hadau a gweithio gyda natur wedi bod yn digwydd ers milenia. Mae angen arbed y sgiliau hyn a’u trosglwyddo. Dim ond dros y 100 mlynedd diwethaf y mae amaeth ungnwd cemegol wedi dod i ddominyddu a bod mor niweidiol i iechyd pobl a’r blaned yr ydym yn byw arni.
Heb hadau does yna ddim planhigion. Heb amrywiaeth mae yna fygythiadau oherwydd gwendidau ungnwd. Mae amgylcheddau amrywiol yn hyrwyddo cadwyni bwyd lleol cadarn. Mae gwybodaeth am gynhyrchu bwyd, yn lleol o’r hadau i’r fforc ac i’r plât, yn sgil gydol oes y mae’n rhaid ei drosglwyddo i bawb.
Mae rhaid ailadeiladu cymunedau a all dyfu eu cynnyrch eu hunain. Cynnyrch maen nhw’n gwybod neith tyfu yn y math o bridd a’u hinsawdd Leol. Heb blaladdwr, gwrtaith cemegol a di-GM. Mae angen cynnwys y gwytnwch hwn ym mhob cymuned i atal effeithiau rhyfel, newyn neu newid hinsawdd. Hunanddibyniaeth o iechyd y pridd hyd at fwyd maethlon, wedi’i wahanu oddi wrth fympwyon cadwyni cyflenwi ac argyfyngau ariannol.
Prosiect – Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn

