NHS Wales Veterans

Mae’r cleifion yma yn cael penwisg realiti rhithwir wedi’u gosod gyda chynnwys ymwybyddiaeth ofalgar i’w helpu i reoli eu symptomau iechyd meddwl yn well wrth aros rhwng triniaethau. O goedwigoedd heddychlon i lethrau bryniau tawel.

Gan weithio gyda Therapyddion Cyn-filwyr a Mentoriaid Cyfoedion, mae’r tîm yn rhan o wasanaeth GIG Cyn-filwyr Cymru (VNHSW) sy’n wasanaeth blaenoriaeth arbenigol ar gyfer cyn-filwyr milwrol â phroblemau iechyd meddwl y gellir eu priodoli i wasanaeth milwrol.

https://bipab.gig.cymru/newyddion/newyddion/menter-grymuso-ein-cyn-filwyr-gwent-gyda-realiti-rhithwir

Grymuso Cyn-filwyr Gwent gyda’n Menter Realiti Rhithwir

Wrth i’r haul wawrio ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2023, mae tîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi’i leoli yn y Fenni yn parhau â menter ar gyfer cyn-filwyr sy’n helpu i’w hymdrochi mewn ymwybyddiaeth realiti rithwir.

Dywedodd Vanessa Bailey, Arweinydd clinigol y tîm: “Mae cyn-filwyr wedi gwasanaethu ein gwlad. Ac felly, mae cynnig rhywbeth sydd efallai ychydig yn wahanol, ychydig yn unigryw iddynt, yn hynod fuddiol a chadarnhaol.”

Mae’r cleifion hyn yn cael setiau pen realiti rhithwir wedi’u gosod â chynnwys ymwybyddiaeth ofalgar er mwyn eu helpu i reoli eu symptomau iechyd meddwl yn well wrth ddisgwyl rhwng triniaethau. O goedwigoedd heddychlon i fryniau tawel.

Wrth weithio â Therapyddion Cyn-filwyr a Mentoriaid Cyfoed, mae’r tîm yn rhan o wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru, sy’n wasanaeth blaenoriaeth arbenigol ar gyfer cyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl yn gysylltiedig â gwasanaeth milwrol.

Bwriad y tîm yw gwella iechyd meddwl a llesiant cyn-filwyr ac mae’r setiau pen realiti rhithwir yn un o’r sawl ffordd maent yn mynd i’r afael â’r nod o gynnig gwasanaethau cynaliadwy, hygyrch ac effeithiol.

Mae Damon Rees, un o Fentoriaid Cyfoed y tîm, hefyd wedi’i enwebu yng nghategori Iechyd a Llesiant Gwobrau Cyn-filwyr Cymru 2023. Dywedodd:

“Treuliais 28 mlynedd yn gweithio fel Sarjant Platŵn gyda’r Corfflu Logisteg Brenhinol / Arloeswyr Brenhinol cyn ymddeol o wasanaeth milwrol ym mis Chwefror 2016. Rwy’n frwd dros y gwaith rwy’n ei wneud wrth gefnogi gwell iechyd meddwl a gwella iechyd a llesiant ein cyn-filwyr, ac mae’n fraint cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau Iechyd a Llesiant Cyn-filwyr Cymru.

Hoff ran fy rôl yw gweld ein cyn-filwyr yn gwella, yn datblygu ar eu taith o wella, ac yn ail-adeiladu eu bywydau. Dyna pam y gwnaf yr hyn a wnaf.”