Llwybr y Morwyr

Mae’r llwybr hwn yn mynd a’r cerddwr ar daith 16.46km o Ian i Ian ar draws Penrhyn Llŷn. Mae’n llwybr ar hyd y penrhyn y gellir ei gerdded o Nefyn i Abersoch neu’r ffordd arall. Mae’r llwybr hwn yn mynd a chi naill ai drwy neu heibio ardaloedd o gynefinoedd naturiol sydd yn Llŷn, o bentiroedd yr arfordir trwy rostiroedd, dyffrynnoedd coediog a’r grug ar gopaon y mynyddoedd Cyn-gambriaidd.

Yn ôl y disgwyl, mewn ardal lle mae un o ieithoedd brodorol hynaf Ewrop yn parhau yn iaith fyw, mae’r tirwedd Celtaidd yma wedi ei wasgaru gyda henebion ac aneddiadau o’r cyfnod cynhanes hyd at y cyfnod anghydffurfiol cymharol ddiweddar. Mae’r enw Llwybr y Morwyr wedi tarddu o’r hen lwybrau ar draws y penrhyn a gerddwyd gan y morwyr yn y 19eg ganrif.

Prosiect: crwydro a Cyngor Tref Nefyn