Henebion Llŷn

Mae’r gwaith sydd wedi cwblhau ym maes treftadaeth yn Llŷn yn cwmpasu nifer o agweddau ar draws yr ardal. Rydym yn cydweithio gyda nifer o bartneriaid ar nifer o brosiectau. Dyma un o’r rhai diddorol-

Mae 50 mlynedd ers cyhoeddi Cyfrol III yn rhoi cyfle i adolygu’r wybodaeth a gyhoeddwyd yn 1964, ac i’w ddefnyddio fel meincnod i gofnodi cyflwr presennol yr henebion ac I gael gwell dealltwriaeth o adnoddau archaeolegol a phensaernïol yr ardal. Mae’r prosiect yn dangos gwerth y cyfraniad enfawr a wneir gan y gymdeithas leol i ymchwil archaeolegol a gwerth y cofnodi cymunedol sydd yn codi proffil archaeoleg yn yr ardal a thu hwnt. Yn ogystal â gwella Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru a’r cofnodion amgylchedd hanesyddol rhanbarthol, drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein sydd ar gael yn rhwydd, bydd y wybodaeth ar gael i’r gynulleidfa eang sydd â diddordeb mewn archeoleg gyfoethog ac amrywiol y rhan hon o ogledd-orllewin Cymru.

Prosiect ar y cyd gyda’r Cowisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Menter Llŷn a Cymdeithas Archaeoleg a hanes Llŷn-  Henebion Llŷn