Safleoedd Gwe
Safleoedd we sydd yn gweithio i chi, hawdd i diweddaru heb costau ychwanegol gan gwmni lleol sydd yn deallt anghenion cwmniau bach cefn gwlad a sut i ddenu sylw ar draws y byd.
Rydym wedi bod yn creu gwefannau dwyieithog ers 1998, nid yw’r Gymraeg yn ychwanegiad. Mae’r Gymraeg wedi bod wrth galon ein busnes, rydym yn gwybod sut i rymuso eich busnes Cymraeg neu ddwyieithog i ffynnu.
Dylunio ac argraffu
Yn ogystal a chynllunio ar ddillad ac ar y a’r we yr ydym yn gwneud llawer o waith dylunio arall. Megis cynhyrchu logo i gwmniau a chymdeithasau ar gyfer pen-lythyrau, cardiau busnes a.y.y.b.
Rydym hefyd yn cynllunio posteri, cloriau llyfrau ayyb, hysbysebion, taflenni. Gallwn gynnig y gwasanaeth o’r dylunio a ffotograffiaeth i fod yn gyfanwaith gorffenedig yn barod i’w argraffu.
VR- Amgylcheddau 360° Realiti Rhithiol at wahanol bwrpas
Rydym yn creu cynnwys sy’n berthnasol ac wedi ei deilwra at yr unigolyn a chynnwys sy’n bwrpasol ar gyfer pobl Cymru.
Gwaith ymgynghori a chynnwys
O’r cychwyn cyntaf, mae prosiectau wedi’u cynllunio ar y cyd gyda’r cleient. Yr ydym yn ymgynghori, dylunio a chreu cynnwys pwrpasol.
Sain Gofodol
Mewn unrhyw brosiect fideo neu ffilm, mae’r amgylchedd sain mor bwysig â’r golygfeydd gweledol.
Mae hyn yn arbennig o wir wrth ddelio â sain ofodol i’w defnyddio mewn amgylcheddau VR a 360°

