Hybu twf economaidd

Dewch draw i trafod eich syniad i helpu trigolion a chymunedau’r ardal.
Os fedra ni ddim helpu chi yn uniongyrchol, byddan yn siwr o medru helpu pwyntio chi yn y cyfeiriad iawn.

Rydym yn gweithio ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector gyda chred gref mewn cyfalaf cymdeithasol a chymuned.

Mae’r diwydiant twristiaeth yn rhan allweddol o fywoliaeth llawer o bobl Llŷn. Mae’r gwaith hwn yn cyflwyno cynllun ‘Croeso Cymraeg’ Cyfeillion Llŷn i sefydlu twristiaeth wahanol fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg.

Mae’r wefan CroesoCymraeg.cymru yn ymwneud ar faes twristiaeth. Roedd Gwyrddni a Menter Iaith Gwynedd yn chwaraewyr canolog yn ei chychwyn. Mae ei wreiddiau yn yr iaith Gymraeg a’r amgylchedd.

Law yn llaw â’r diwydiant twristiaeth mae’r siopau a’r manwerthwyr sydd â gwreiddiau yn ein cymunedau. Y gwasanaethau a’r cadwyni cyflenwi sy’n bwydo’r diwydiant.

Un o’r elfennau pwysicaf yng nghyfansoddiad ein cymunedau yw’r mentrau cymdeithasol. Roedd Cymunedoli cyf. yn rhan annatod o’r weledigaeth o roi mentrau wrth wraidd y safle rhestru yma.    Gwynedd.cymru