Amdanom

Mae Menter Llŷn yn gweithio gyda phartneriaid i’w helpu i gyflawni’r canlyniadau maen nhw’n chwilio amdanynt. Yn aml iawn rydym yn gweithio fel catalydd neu hwylusydd, gan alluogi ein partneriaid i wireddu eu breuddwydion.

Gall Menter Llŷn alw ar amrywiaeth o’r gweithwyr proffesiynol a’r gweithwyr llawrydd gorau yn eu meysydd i gefnogi arbenigwyr mewnol.

Rydym yn manteisio ar brofiad a gwybodaeth wrth ddefnyddio offer a llwyfannau digidol.

Partneriaethu -
rhai o'n prif bartneriaid

Atgofion Melys

Cydweithfa Greadigol

Mae Atgofion Melys yn grŵp o unigolion o’r Gogledd, sydd wedi dod ynghyd i gydweithio i helpu pobl yn ein cymunedau trwy dechnoleg. Fe wnaethom adnabod angen am gynnwys pwrpasol o ansawdd uchel ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddiau ar hyd y sector Iechyd a lles yng Nghymru.

Atgofion.co.uk

Argraff

Cynllunio ac Argraffu

Rydym wedi bod yn creu gwefannau dwyieithog ers 1998, nid yw’r Gymraeg yn ychwanegiad. Mae’r Gymraeg wedi bod wrth galon ein busnes, rydym yn gwybod sut i rymuso eich busnes Cymraeg neu ddwyieithog i ffynnu.

Mae gennym ni gyfleusterau dylunio ac argraffu mewnol hefyd.

Argraff.com

Cymdeithas Penygraig

Mudiad Cymunedol

Mae Cymdeithas Pen y graig wedi bod yn gyfrifol am weithgareddau’r Ganolfan Treftadaeth a Natur Penygraig. Gwaith fel arddangosfa Lwybr y Pererinion a chynnal llu o ddigwyddiadau cymunedol. Y Gymdeithas sydd wedi cymryd y cyfrifoldeb am y gwaith Gwyliau Cymraeg a Phecynnu’r Profiad.

Cymdeithas Penygraig

Pam Menter Llŷn?

Cyd-weithio

Mae Menter Llŷn yn rhagori mewn cydweithio â phartneriaid a chleientiaid yn y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

10 Mlynedd o Brofiad

Ers dros 10 mlynedd rydym wedi datrys heriau i gleientiaid yn y meysydd Iaith, Treftadaeth, Economaidd ac Amgylcheddol.

Amlgyfrwng

Rydym yn arbenigo mewn nifer o ddisgyblaethau digidol- Gwefannau, Rhith-realiti, Graffeg, Ffotograffiaeth, Fideograffiaeth a Thirweddau sain.

cyfeiriad

Capel Penygraig, Llangwnnadl, Cymru.