Pam Menter Llŷn?
Cyd-weithio
Mae Menter Llŷn yn rhagori mewn cydweithio â phartneriaid a chleientiaid yn y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.
10 Mlynedd o Brofiad
Ers dros 10 mlynedd rydym wedi datrys heriau i gleientiaid yn y meysydd Iaith, Treftadaeth, Economaidd ac Amgylcheddol.
Amlgyfrwng
Rydym yn arbenigo mewn nifer o ddisgyblaethau digidol- Gwefannau, Rhith-realiti, Graffeg, Ffotograffiaeth, Fideograffiaeth a Thirweddau sain.
Cyd-weithio
Dyma enghraifft o ran un o’r llwybrau cerdded a ariennir gan y Lotri a weithiodd Menter Llŷn arno. Oedd y prosiect yma yn rhan o Lwybrau hanesyddol Llŷn gan Gyngor Tref Nefyn.
Mae’r llwybr hwn yn mynd a’r cerddwr ar daith 16.46km o Ian i Ian ar draws Penrhyn Llŷn. Mae’n llwybr ar hyd y penrhyn y gellir ei gerdded o Nefyn i Abersoch neu’r ffordd arall. Mae’r llwybr hwn yn mynd a chi naill ai drwy neu heibio ardaloedd o gynefinoedd naturiol sydd yn Llŷn, o bentiroedd yr arfordir trwy rostiroedd, dyffrynnoedd coediog a’r grug ar gopaon y mynyddoedd Cyn-gambriaidd.
Yn ôl y disgwyl, mewn ardal lle mae un o ieithoedd brodorol hynaf Ewrop yn parhau yn iaith fyw, mae’r tirwedd Celtaidd yma wedi ei wasgaru gyda henebion ac aneddiadau o’r cyfnod cynhanes hyd at y cyfnod anghydffurfiol cymharol ddiweddar. Mae’r enw Llwybr y Morwyr wedi tarddu o’r hen lwybrau ar draws y penrhyn a gerddwyd gan y morwyr yn y 19eg ganrif.

