Yr Iaith Gymraeg

Cymraeg

Mae’r iaith Gymraeg a’i diwylliant a’i threftadaeth gysylltiedig wedi bod wrth wraidd ein gweithgareddau o’r cychwyn.

Roedd sefydlu’r siop siarad yn Nefyn yn lle i bobl siarad Cymraeg a llunio syniadau. Fforwm i ddinasyddion fynegi eu hunain a dod o hyd i atebion i broblemau.

Cymraeg, Saesneg,…a.y.y.b…. 

Dyna pam mae’r gwefannau i gyd wedi’u hysgrifennu yn Gymraeg. Mae technoleg yn ein galluogi wedyn i’w cyfieithu i’r Saesneg, neu bron unrhyw iaith.

CroesoCymraeg.Cymru

Sefydlwyd gwefan croesocymraeg.cymru er mwyn gwarchod yr iaith, yr amgylchedd a buddiannau pobl Llŷn. Mae’r wefan yn cael ei rheoli gan Gymdeithas Pen y Graig, sydd yn cydweithio efo rhwydwaith o gynghorau cymuned a thref, mudiadau, sefydliadau, prosiectau, unigolion a phawb sy’n rhannu’r un nod o hyrwyddo hyfywedd y Gymraeg.

Gwynedd.Cymru

Mae Gwynedd.Cymru yn safle sy’n arddangos Mentrau Cymdeithasol a busnesau sy’n defnyddio’r Gymraeg fel rhan gyfannol o’u gweithgareddau bob dydd. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i unrhyw unigolyn, masnachwr unigol neu grefftwr o Wynedd ddod yn werthwr, ac ychwanegu nwyddau neu wasanaethau yn ein marchnad ar-lein.

Crwydro.co.uk

Sefydlwyd Crwydro.co.uk gan bobl leol sy’n frwdfrydig dros yr ardal, yr iaith, y diwylliant a’r amgylchedd. Gan gydweithio â chynghorau sir a phlwyf rydym yn gwybod pa lwybrau sydd ar agor a ble mae’r mannau o ddiddordeb. Rydym yn awyddus i ddangos i bobl leol ac ymwelwyr rai o’r pethau yr ydym yn eu hystyried yn bwysig; ac i roi mewnwelediad dyfnach i bobl o hanes a diwylliant cyfoethog yr ardal tra maent yn cerdded ar hyd llwybrau sydd ymhlith y gorau yn y wlad.