Croeso Cymraeg = Gwyliau Cymraeg

Profiadau unigryw wrth fwynhau gwyliau mewn awyrgylch Gymraeg. Ymweld ac aros gyda mentrau cymunedol a busnesau lle mae Croeso Cymraeg bob amser

Sefydlwyd gwefan croesocymraeg.cymru er mwyn gwarchod yr iaith, yr amgylchedd a buddiannau pobl Llŷn. Mae’r wefan yn cael ei rheoli gan Gymdeithas Pen y Graig, sydd yn cydweithio efo rhwydwaith o gynghorau cymuned a thref, mudiadau, sefydliadau, prosiectau, unigolion a phawb sy’n rhannu’r un nod o hyrwyddo hyfywedd y Gymraeg.

Drwy’r cydweithio yma daeth cynghorau cymuned a thref Llŷn ynghyd a dynodwyd y penrhyn ganddynt yn Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol (dwysedd uwch). Canlyniad hyn ydi fod “Cynlluniau i gynnal a chryfhau’r Gymraeg” wedi cael ei ychwanegu at restr o flaenoriaethau Cynllun Ardal Ni sef Cynllun Adfywio Lleol, Cyngor Gwynedd ar gyfer Llŷn tan 2035.

Mae’r gwaith hwn yn cefnogi nod cynllun ‘Croeso Cymraeg’ Cyfeillion Llŷn o sefydlu twristiaeth wahanol fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg yn y dyfodol. Dyma’r unig gynllun sydd ar restr flaenoriaeth “Cynlluniau i gynnal a chryfhau’r Gymraeg” yn y cynllun Ardal Ni Llŷn.

Croeso Cymraeg i Lŷn ac i wynedd

Mae’r diwydiant twristiaeth yn rhan allweddol o fywoliaeth llawer o bobl. Mae busnesau yng Nghymru yn dechrau gweld bod defnyddio’r Gymraeg yn ychwanegu gwerth i’w cynnyrch ac yn gallu creu brand unigryw. Mae gallu defnyddio hyd yn oed ychydig o Gymraeg yn gallu gwella eu gwasanaeth cwsmer hefyd, a gwneud i gwsmeriaid Cymraeg deimlo’n hapusach.
Does dim rhaid i chi siarad Cymraeg yn rhugl na gwneud pob dim drwy’r Gymraeg i elwa. Mae’r pethau bychain yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.

Hanes Croeso Cymraeg

Roedd yr angen i sefydlu twristiaeth gydnaws a’r diwylliant Cymraeg wedi ei adnabod yn 2001, mewn astudiaeth ymchwil i ‘Effeithiau Twristiaeth ar Yr Iaith Gymraeg Yng Ngogledd-Orllewin Cymru’. Cyflwynwyd y weledigaeth o sefydlu twristiaeth gylchol, gynaliadwy Gymraeg ei hiaith yn gyntaf mewn cais cynllunio i sefydlu Canolfan Dreftadaeth a Gwarchodfa Natur yn Llangwnnadl yn 2008.

Cafodd y weledigaeth ei throi yn gynllun Croeso Cymraeg gan Gyfeillion Llŷn yn dilyn cyfarfod arbennig yng Nghapel Penygraig yn 2011. Cafodd y cynllun ei dreialu ar raddfa fach yn llwyddiannus gan Gymdeithas Penygraig yn Llangwnnadl rhwng 2012 – 2013, efo nawdd bach gan brosiect Pecynnu’r Profiad PEG Gwynedd a daeth y gymuned i gyd ynghyd i hyrwyddo’r Gymraeg.
Tynnwyd pob arwydd Saesneg i lawr a gosodwyd rhai Cymraeg neu ddwyieithog yn eu lle, gosodwyd
arwyddion enwau lonydd Cymraeg am fod Lôn Cil Llidiart wedi dechrau cael ei galw yn Honey Pot Lane, cyflwynwyd hanes lleol ar hysbysfwrdd, mewn pamffledi a’r wefan ac ar hyd llwybr cylchol drwy gyswllt cod QR.