Croeso Cymraeg = Gwyliau Cymraeg

Profiadau unigryw wrth fwynhau gwyliau mewn awyrgylch Gymraeg. Ymweld ac aros gyda mentrau cymunedol a busnesau lle mae Croeso Cymraeg bob amser Sefydlwyd gwefan croesocymraeg.cymru er mwyn gwarchod yr iaith, yr amgylchedd a buddiannau pobl Llŷn. Mae’r wefan yn cael ei rheoli gan Gymdeithas Pen y Graig, sydd yn cydweithio efo rhwydwaith o gynghorau cymuned …

Had . Cymru

Gwinllan a roddwyd i’m gofalYw Cymru fy ngwlad,i’w thraddodi i’m plant, ac i blant fy mhlant. Mae arbed hadau a gweithio gyda natur wedi bod yn digwydd ers milenia. Mae angen arbed y sgiliau hyn a’u trosglwyddo. Dim ond dros y 100 mlynedd diwethaf y mae amaeth ungnwd cemegol wedi dod i ddominyddu a bod …

Crwydro . co.uk

Sefydlwyd Crwydro.co.uk gan bobl leol sy’n frwdfrydig dros yr ardal, yr iaith, y diwylliant a’r amgylchedd. Gan gydweithio â chynghorau sir a phlwyf rydym yn gwybod pa lwybrau sydd ar agor a ble mae’r mannau o ddiddordeb. Rydym yn awyddus i ddangos i bobl leol ac ymwelwyr rai o’r pethau yr ydym yn eu hystyried …

Henebion Llŷn

Mae’r gwaith sydd wedi cwblhau ym maes treftadaeth yn Llŷn yn cwmpasu nifer o agweddau ar draws yr ardal. Rydym yn cydweithio gyda nifer o bartneriaid ar nifer o brosiectau. Dyma un o’r rhai diddorol- Mae 50 mlynedd ers cyhoeddi Cyfrol III yn rhoi cyfle i adolygu’r wybodaeth a gyhoeddwyd yn 1964, ac i’w ddefnyddio …

Atgofion Melys – Casgliad y Werin Cymru

Mae Atgofion Melys yn grŵp o unigolion o’r Gogledd, sydd wedi dod ynghyd i gydweithio i helpu pobl yn ein cymunedau trwy dechnoleg. Fe wnaethom adnabod angen am gynnwys pwrpasol o ansawdd uchel ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddiau ar hyd y sector Iechyd a lles yng Nghymru. Fideos 360-gradd yw rhain, sy’n golygu ei …